Newyddion Ysgol Gymuned Bodffordd
I weld adroddiad llawn ESTYN ar gyfer yr arolwg diweddaraf
Cymraeg - cliciwch yma
English - click here
Clwb Hanes - Bu Mr Ellis Wynne Roberts ac Mrs Ann Roberts yn yr ysgol i siarad gyda Dosbarth 2 am agweddau hanes lleol fel rhan o Glwb Hanes yr Ysgol. Cafod y plant flas ar hanes sawl agwedd gwahanol o hanes Bodffordd a’r ardal – Home Guard Bodffordd, hanes siopau a thafarndai y pentref, hanes y corau gwahanol oedd yn yr ardal, yr hanes tu ol i enw stad tai Maes yr Orsedd. Yn ystod ei ail ymweliad bu’r Clwb yn olrhain hanes Rhyfel y Degwm yn lleol. Treuliwyd da gyfnod difyr yn ei gwmni gyda’r plant wrth eu boddau ac yn ymateb yn dda i’r lluniau, ffotograffau a’r darnau tystiolaeth oedd gan Mr Roberts i’w rhannu. Bydd y plant yn gweithio ar y darnau tystiolaeth nawr i’w cyflwyno mewn gwahanol ffyrdd.
Cafwyd gwasanaeth Diolchgarwch yn yr ysgol gyda’r plant yn gwisgo gwisgoedd pob dydd am gyfraniad tuag at ymgyrch Food Aid. Casglwyd £70 tuag at yr elusen.
Anturio - Bu Blwyddyn 5 a 6 yng Nghanolfan Conwy Llanfairpwll i gael profiadau anrurio heriol. Bu’r plant yn dringo ar y wal ddringo ac yn canwio ar y Fenai. Bu Mr Roberts ac Anti Leah yn mentro hefyd.
Gwisgo i fyny - Cafodd Dosbarth 2 ddiwrnod seicoldelig iawn yn ddiweddar fel rhan o’u gwaith hanes yn astudio hanes prydain ers yr Ail Ryfel Byd. Aeth paw bi drafferth mawr i wisgo ffasiwn y 60gau, 70gau a’r 80gau gan gynnwys Mr Roberts! Cafwyd diwrnod da iawn.
Melin Llynnon - Bu Dosbarth 1, dosbarth Miss Ffion Jones i Felin Llynnon. Bu’r plant yn gweld y cytiau Celtaidd, yn peintio wynebau fel milwyr celtaidd ac yn gwneud potiau clai. Bu’r plant yn gwneud blawd. Yn ol yn yr ysgol bu’r plant yn gwneud bara ac yn blasu gwahanol mathau fara o wahanol wledydd.
Gweithdai Gwyddoniaeth – Bu Dosbarth 2 i’r Wylfa am ddau weithdy gwyddoniaeth – cylchedau trydan a tyrbeiniau trydan, dau weithdy da iawn.
Caerdydd – Bu nifer o blant Blwyddyn 5 a 6 yn aros yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd am dridiau cyn hanner tymor gyda Adran Bentref Urdd Bodffordd. Diolch i Llinos a Paula am fynd gyda nhw.
Cafwyd Ffair Nadolig a Chyngerdd Nadolig hynod o lwyddiannus ddiwedd Rhagfyr. Diolch i bawb am gefnogi.
‘WYTHNOS WELIS’
Bu Dosbarth 1 gyda Miss FFion Jones ar sawl antur dros wythnos yn ddiweddar. Yn ystod eu ‘Wythnos Welis’ bu’r plant yn Cynnal arolwg adar yr ardd, ar daith gerdded i draeth Aberffraw, ar daith ar lwybrau nature Y Dingl, yn paentio ‘welis’ ac ar daith antur a chyfeiriannu o gwmpas yr ysgol.
Dathlu y Flwyddyn Newydd Tseineaidd – Blwyddyn yr Ychen
Trefnwyd i blant Dosbarth 1 ymweld a bwyty Eastern Origin, Bangor i gael blas ar fwyd Tseineiadd ac i weld dawns y ddraig traddodiadol fel rhan o’u gwaith dosbarth.
Bu Dosbarth 2 gyda Mr Roberts a Mrs Kayley Williams ar ymweliad i Oriel Mon i’r Oriel Hanes ac i weld arddangosfa gweithiau Sir Kyffin Williams fel rhan o’u gwaith Celf a’u thema Ynys Mon a Theithio.
Mae Dosbarth 2 wedi llwyddo i sefyldu cyswllt gyda Ysgol Forest Glen yn Moncton, New Brunswick yng Nghanada. Mae’r disgyblion hynaf wedi anfon eu negeseuon e-bost ac yn edrych ymlaen yn arw at dderbyn negeseuon unigol gan blant Forest Glen. Mae hyn yn rhan o waith Dinasyddiaeth Byd Eang y dosbarth.