Mae diogelwch a gofal disgyblion yn fater pwysig iawn i’r ysgol a’r corff Llywodraethol. Tra bydd y plant yn yr ysgol gwneir pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod yr adeilad, y tiroedd o amgylch, ethos, trefniadaeth a threfn disgyblaeth yr ysgol yn cyfrannu i sicrhau diogelwch disgyblion ac aelodau staff. Pe cyfyd mater sy’n peri pryder o ran yr adeilad a’r tiroedd, cysylltir â’r adrannau perthnasol i gywiro’r broblem hwnnw mor fuan ac mae’r adrannau hynny yn gallu ac yn fodlon. Gwneir asesiadau risg niferus yn achlysurol. Mae’r asesiadau risg hynny i’w gweld ar gais i’r Pennaeth. Mae’r rhestr hirfaith o asesiadau angenrheidiol wrthi’n cael sylw dyledus yn ystod 2005/06. Mae systemau niferus yn eu lle sy’n rhan o strwythur diogelu, amddiffyn plant a gweithredu mewn achos o argyfwng. Gofynnir i rieni gytuno i ddilyn y systemau hyn ac i ddiweddaru gwybodaeth cysylltu yn ystod y flwyddyn addysgol.
Os bydd angen, cysylltir a’r rhiant , on dos methir, mewnachos difrifol, yna eir a’r plentyn i Adran Ddamweiniau Ysbyty Gwynedd.
Rheoli Risg
Mae system gan yr ysgol, y Pennaeth a’r Corff Llywodraethu i reoli risg fel rhan o’r strategaeth sicrhau Iechyd a Diogelwch. Mae diogelwch holl ddefnyddwyr ac ymwelwyr a’r ysgol yn flaenllaw. Wrth adnabod risg, ymdrechir gwneud popeth o fen rheswm i leihau neu i negyddu’r risg hwnnw.
Cynllun Diogelwch y Ffordd
Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos a Ceri Williams, Swyddog Addysg Diogelwch y Ffordd Ynys Môn. Caiff dau ddisgybl ei dewis yn flynyddol ym Mlwyddyn 6 fel Swyddogion Diogelwch yr ysgol. Dewisir dau ddisgybl o Flwyddyn 5 fel Is-swyddogion hefyd i gysgodi gwaith y prif swyddogion. Trefnir nifer o weithgareddau
Maes Parcio
I osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddamwain o unrhyw fath, ni ddylai rhieni na phlant gerdded drwy’r maes parcio wrth ddod i’r ysgol nac wrth adael ar unrhyw gyfrif. Dylai pawb ddefnyddio’r llwybrau troed pwrpasol. Mae’r cais hwn yn rheol bwysig sydd yn rhan o strategaeth Iechyd a Diogelwch yr ysgol ac yn rhan o gamau’r ysgol i leihau risg o ddamweiniau. Mae’r cyfnodau cyn ac ar ôl ysgol yn gyfnodau prysur a pheryglus i gerddwyr a phlant. Helpiwch ni, os gwelwch yn dda, i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddamwain drwy gydymffurfio â’n cais.
Mae’n ofynnol fod gan bob ysgol drefn diogelwch mewn perthynas â meysydd parcio. Yn anffodus bu damweiniau angheuol a pheryglus mewn meysydd parcio ysgolion yn y gorffennol. Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn mynnu ein bod yn sicrhau diogelwch defnyddwyr mewn perthynas â meysydd parcio. Yn yr ysgol hon dim ond staff dysgu, staff cefnogol, athrawon llanw, athrawon cefnogol (offerynnau cerddorol a.y.b.), gweithwyr y Mudiad Meithrin, y Tacsi a cheir defnyddwyr ‘anabl’ drwy drefniant a chytundeb o flaen llaw'r Pennaeth, sydd â chaniatâd pendant a swyddogol i ddefnyddio’r maes parcio ym mlaen yr ysgol. Dim ond lle i hyd at 5 car yn unig sydd yn y maes parcio.
Llecyn bach yw’r maes parcio ac ni ellir sicrhau bod digon o le i barcio car yn ddiogel. Ni ddylai unrhyw un sydd yn defnyddio’r maes parcio gefnu allan i’r ffordd fawr i adael y maes parcio er diogelwch.
Amddiffyn Plant
Yn unol â pholisi Amddiffyn Plant Ynys Môn, mae gan yr ysgol bolisi Amddiffyn Plant. Mae’r polisi yn bodoli i sicrhau nad yw plant yn cael eu cam-drin yn yr ysgol na thu hwnt. Mewn achosion ble fo honiadau o gam-drin mae strwythurau tynn i’w dilyn.
Fel rhan o’r drefn Amddiffyn Plant mae strwythurau gennym sydd yn gofyn caniatâd rhieni i ddisgyblion ddefnyddio’r rhyngrwyd, yn gofyn hawl rhiant i’r ysgol dynnu lluniau plant ar waith at ddefnydd ysgol, hawl i aelodau o’r cyfryngau dynnu lluniau at ddefnydd papur newydd a chaniatâd i unigolion hysbys wneud fidio o gyflwyniadau ysgol.
Mae amddiffyn Plant yn fater pwysig a difrifol ond mae’r polisi a’r gweithdrefnau sydd gennym yn bodoli i sicrhau diogelwch a lles eich plentyn chwi. Pe byddech yn dymuno trafod y polisi, cysylltwch â’r Pennaeth.
Cyfle Cyfartal
Dylai pob unigolyn dan ein gofal dderbyn addysg o werth cyfartal o fewn cynllun cyffredinol yr ysgol. Ceisiwn greu awyrgylch diogel, ymddiriedus a symbylol ym mhob cwr o'r ysgol ac anogir cydweithrediad, gofal a goddefgarwch rhwng oedolion a phlant a rhwng plant a'i gilydd. Rhoddir bri ar gyfraniad pob unigolyn a pherchir ei syniadau a'i farn. Gosodir disgwyliadau ymddygiad teg a rhesymol ar y plant, disgwyliadau a fydd yn arwain at ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion a hawliau eraill. Ceisiwn sicrhau fod y plant yn derbyn negeseuon cadarnhaol o gydraddoldeb. Ceisir osgoi creu gwahaniaethau o ran rhyw yn y tasgau a osodir i blant, e.e. mewn Addysg Gorfforol, Technoleg, Celf; yn nhrefniadaeth y dosbarth a chyfansoddiad grwpiau, wrth greu rhesi, wrth rannu dyletswyddau, wrth gyfeirio plant at fannau ag offer chwarae a gweithio. Sicrheir fod gweithgareddau allgyrsiol yn agored i bawb. Sicrheir fod dulliau canmol a cheryddu yn gyffredin i bawb. Manylir ymhellach ar yr agwedd yma yn ein Polisi Cyfle Cyfartal.
Hyrwyddo Cydraddoldeb Hiliol / Ymateb i achosion o hiliaeth
Yma, yn Ysgol Gymuned Bodffordd, dymunwn sicrhau fod pob disgybl yn derbyn y cyfle i feithrin sgiliau angenrheidiol bywyd. Mae angen i ni sicrhau a darparu amgylchedd a fydd yn galluogi disgyblion i feithrin y gwerthoedd, yr agweddau a’r sgiliau personol, cymdeithasol sylfaenol a fyddai’n angenrheidiol mewn cymdeithas aml ddiwylliant cyfoes. Ystyriwn fod sylwadau hiliol gan unrhyw un sydd yn ymwneud a’r ysgol yn hollol annerbyniol.
Ymdrecha’r ysgol i beidio a gwahaniaethu rhwng unrhyw un ar sail hil, crefydd, cenedligrwydd, ethnigedd na thras genedlaethol. Ymgeisiwn hyrwyddo tegwch i bawb drwy’r addysg a ddarperir yn yr ysgol. Ymgeisiwn bob gafael i osgoi unrhyw fath o wahaniaethu goddefol all fod yn rhwystr i ddysgu. Ni fyddem yn derbyn ystrydebu a rhagfarn ac yn ei gystadlu pe cyfyd yr angen. Lle bo’n bosibl, byddem yn dathlu’r gwahaniaeth a chyfoeth diwylliannol sydd o fewn ein cymuned?
Atal Hiliaeth
Mae gan bob disgybl yr hawl i dderbyn y gorau y gallem gynnig o ran addysg a gweithgareddau ymylol. Nid ydym yn derbyn unrhyw ffurf o hiliaeth neu ymddygiad hiliol. Pe digwyddai achosion o’r fath, byddem yn ymateb yn unionsyth i osgoi ailadrodd ymddygiad / digwyddiad o’r fath. Mae’n ofynnol gwneud cofnod o achosion o sylwadau neu ymyrraeth hiliol a chysylltu â’r Awdurdod Addysg.
Crefydd
Nid yw'r ysgol hon yn dal cysylltiadau uniongyrchol a ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol. Yn unol â gofynion y cwricwlwm cenedlaethol cyflwynir i'r plant gwahanol grefyddau a chredoau a geir yn y byd, yn ogystal â moesau a chanllawiau ar gyfer byw yn y byd tu allan i ffiniau'r ysgol.
Cynhelir gwasanaethau dyddiol yn yr ysgol yn dilyn gofynion y ddeddf. Bydd y gwasanaethau yn delio ag amrywiaeth o themâu, gyda'r plant a'r athrawon yn gyfrifol am eu cyflwyno. Amseroedd gwasanaethau yw: 9.00am yn ddyddiol. Darperir cynllun blynyddol o themâu gwasanaethau’r ysgol.
Addoliad
Nid oes cysylltiadau crefyddol uniongyrchol na ffurfiol. Croesewir gweinidogion a chyfeillion i'r ysgol i'n cynorthwyo yn achlysurol. Bydd y plant yn eu tro yn cael mynd i'r capel i gymryd rhan mewn gwasanaethau fel Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Y nod yw cael yr ysgol i chwarae amlwg a phriodol ym mywyd ysbrydol y gymuned.
Os nad yw rhiant yn dymuno i'w blentyn gymryd rhan mewn gwasanaethau nac ychwaith mewn astudiaethau Beiblaidd/Crefyddol yna, yn ôl ei gydwybod, mae hawl gan y rhiant eithrio'r plentyn o'r ddarpariaeth Addysg Grefyddol a gynigir. Dylid hysbysu’r Pennaeth o’r dymuniad i wneud hynny drwy lythyr eglur
Cynhelir gwasanaethau torfol yn yr ysgol hon yn ddyddiol am 9.00am. Dilynir un gwasanaeth boreol gan ymarfer canu ysgol gyfan.
Cofiwch – mae’r staff yma i’ch helpu chi a’ch plentyn. Mae hapusrwydd eich plentyn yn yr ysgol yn bwysig iawn i mi fel Pennaeth ac i’r staff. Hoffwn eich cydweithrediad i sicrhau hynny.